Dathliad Cymru-Affrica 2024 – Carnifal Trebiwt, Bae Caerdydd

Sun 25 Aug 2024
NAWARIS dancers

Ymunwch â ni a Charnifal Trebiwt ar gyfer yr ŵyl awyr agored rhad ac am ddim hon sy’n dathlu Affrica yng Nghymru ym Mae Caerdydd gyda dawns, gorymdaith carnifal, adrodd straeon, sioe ffasiwn, perfformiadau grŵp cymunedol, bwyd, gweithdai a cherddoriaeth yn cynnwys artistiaid anhygoel o Gymru ac Affrica.

Dathliad Cymru-Affrica at Butetown Carnival poster

Parêd carnifal yn cychwyn yn Sgwâr Loudon am 12.00 hanner dydd

Gweithdai:

10.30yb Drymio Djembe Gorllewin Affrica ar gyfer chwaraewyr profiadol gyda Seydou Kienou (cynghori i archebu ymlaen llaw – defnyddiwch y botwm Cysylltwch â Ni  uchod – £12 i oedolion, am ddim os dan 25 oed)

11.30yb Traed Ffynci – Parêd ddawns Affrobît yn cynhesu gyda Oloye

2.30yp Drymio Djembe Gorllewin Affrica i ddechreuwyr gyda Seydou Kienou (cynghorir i archebu ymlaen llaw – defnyddiwch y botwm Cysylltwch â Ni  uchod – £12 i oedolion, am ddim os dan 25 oed)

Prif lwyfan Bae Caerdydd o 1yp:

1.10-2.10yp Suntou Susso Band gyda Binta Susso

Yn hanu o’r Gambia, mae cerddoriaeth Suntou yn cyfuno sain gyfoethog draddodiadol ei ddiwylliant Mandinka Gorllewin-Affricanaidd ag Affro ffync a soul. Mae’n chwarae’r kora (telyn-liwt) 22 tant, a bydd gwadd arbennig y gantores Binta Susso yn ymuno ag ef.

2.40-3yp Ayoub & Ffion

Profwch y gân ymasiad Morocaidd/Cymreig hudol ‘Achkid Awa’. Mae cydweithrediad unigryw Ffion ac Ayoub yn hyrwyddo cynwysoldeb ac undod.

3.40-4.40yp Successors Collective

Cysyniad band mawr newydd cyffrous yn dod â sain ffync jazz Affro-Gymreig gyda naws hip hop.

5.20-6.20yn Asya Satti ayda Yaz Fentazi

Bydd y cydweithrediad Swdan/Algeraidd hwn yn cyflwyno tapestri o synau byd-eang gan gynnwys cerddoriaeth gyda gwreiddiau Swdan, ymasiad Gogledd Affrica, ac RnB.

7.00-8.30yn Mokoomba o Zimbabwe

Fe’u disgrifir fel y gorau o Afrofusion – rhythmau cyffrous, curiadau gwefreiddiol, a harmonïau heb eu hail.

Llwyfan Teras Canolfan y Mileniwm

2.15-2.25yp Miriam Dubois gyda Cardiff Deaf Cool Youth Club

2.25-235yp Frederico Jose

3.05-3.35yp Oasis One World Choir gyda Phil Okwedy: Gwlad Gyda’n Gilydd

4.45-4.55yp Teejay Olakojo

4.55-5.10yn Nawaris Sudanese Performing Arts Group: A Dance for Peace

5.10-5.20yn AFJ Caerdydd

6.25-6.55yn Sioe Ffasiwn Dathliad Cymru-Affrica: Afrofuturism

Cardiff programme 1

Cardiff programme 2