Dathliad Cymru-Affrica 2024

Dathliad Cymru-Affrica 2024 poster Dathliad Pembs banner

Hwre! Mae ein hail raglen gŵyl bwrpasol am ddigwydd! Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd – gan lwyfannu a dathlu cyfoeth amrywiaeth yng Nghymru, byddwn unwaith eto yn arddangos artistiaid Affricanaidd sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn gwahodd artistiaid o’r DU, Ewrop ac Affrica ar gyfer digwyddiadau eleni. Bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfuniadau Affro-Gymreig a pherfformiadau, ac yn hyrwyddo gwaith grwpiau cymunedol Affricanaidd gydol y flwyddyn. Bydd gŵyl eleni ar draws tri safle – Bluestone Brewing Co (Cilgwyn), Diwrnod Dathliad Cymru-Affrica yng Ngharnifal Butetown (Bae Caerdydd), a Neuadd Ogwen (Bethesda).

Yn y cyfnod cyn ac ar ôl yr ŵyl, byddwn yn cynnal rhaglen ymgysylltu â’r gymuned gyda chyfres o weithdai (gan gynnwys dawns Affricanaidd a drymio/offerynnau taro).