Djeli & Beirdd

Djeli a Beirdd: Archwilio cysylltiadau rhwng traddodiadau cerddorol Gorllewin Affrica a Chymru

Cefndir

Nod y prosiect hwn (a ariannwyd gan Dŷ Cerdd) oedd archwilio a chael cipolwg ar y cysylltiadau rhwng traddodiadau cerddorol hynafol griots/djeli Gorllewin Affrica a’r gwŷr wrth gerdd/beirdd Cymreig. I gyflawni hyn, fe wnaethom gomisiynu cydweithrediad hardd unigryw rhwng Troupe Djeliguinet (grŵp o Gini o’r traddodiad djeli etifeddol, a oedd yn ymweld â Chymru ym mis Awst/Medi 2022) a’r ddeuawd gerddorol Gymreig Bragod.

Mae griot/djeli Gorllewin Affrica yn storïwyr, cantorion, cerddorion, a haneswyr llafar. Mae’r djeli yn chwarae rhan allweddol yn y gymdeithas ac yn draddodiadol roedden nhw’n negeswyr a diplomyddion y llys, gan ledaenu gwybodaeth trwy gerddoriaeth a chân yn dyddio’n ôl i ymerodraeth Mande yn y 13eg ganrif. Maent wedi adrodd ac ail adrodd hanes yr ymerodraeth, gan gadw eu straeon a’u traddodiadau yn fyw gan ddefnyddio offerynnau fel y ngoni, y kora, a’r balafon. Mae Djeli yn hyfforddi am flynyddoedd yn dysgu chwarae eu hofferyn a gwrando ar henuriaid yn adrodd eu straeon. Yn draddodiadol dim ond dynion fyddai’n chwarae’r offerynnau hyn, ond mae Fatoumata Kouyaté, arweinydd Troupe Djeliguinet, yn un fenyw sy’n herio’r sîn gerddoriaeth a ddominyddir gan ddynion yng Ngorllewin Affrica ar ôl cael dysgu’r offerynnau traddodiadol hyn gan ei thad (djeli a prif balaffonydd) a throsglwyddo’r sgiliau hyn i’w merched. Mae’r teulu Kouyaté yn ddisgynyddion enwog o’r djeli cyntaf a chwaraeodd balaffon, Balla Fassèké Kouyaté, a gafodd warcheidwaeth yr offeryn yn chwedlonol gan Frenin Soso, Soumaoro Kanté (gweler y stori yma).

Yn yr un modd, mae’r traddodiad barddol Cymreig yn mynd yn ôl ymhell, yn dyddio’n ôl i’r chweched ganrif. Roedd gwyr wrth gerdd/beirdd yn rhan bwysig o gymdeithas Gymraeg yr Oesoedd Canol lle byddent fel arfer yn cyfansoddi cerddi mawl yn llysoedd brenhinoedd ac uchelwyr. Roedd dod yn fardd yn golygu dysgu systemau mydryddol cymhleth a chael dealltwriaeth ddofn o lên hanesyddol a chwedlonol. Dengys peth tystiolaeth fod disgyblion y beirdd yn cael eu haddysgu ar lafar, ac erbyn diwedd yr 16eg ganrif roedd y system ganoloesol o hyfforddiant barddol wedi darfod. Yn draddodiadol roedd beirdd yn ddynion yn union fel djeli, ond mae Mary-Anne Roberts, cantores o Drinidad sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, yn adfywio’r gelfyddyd fel hanner Bragod (cydweithrediad cerddorol rhyngddi hi a’r offerynnwr Cymreig canoloesol Robert Evans).

Daeth y prosiect hwn ag aelodau o Troupe Djeliguinet a Bragod ynghyd ar gyfer cyfres o gyfarfodydd i drafod, archwilio ac arbrofi gyda chyd-greu, gan dynnu ar debygrwydd y maent yn ei ganfod yn eu gwaith.

Sesiynau’r prosiect

Roedd y cyfarfodydd prosiect (gyda chyfieithu a chyfryngu diwylliannol wedi’u hwyluso gan ein Cyfarwyddwr Artistig, N’famady Kouyaté) yn cynnwys dysgu am draddodiadau ac offerynnau ei gilydd, chwarae a’i gilydd, a dod o hyd i bethau cyffredin. Esblygodd hyn i uno  caneuon a datblygu dau ddarn cydweithredol y gellid eu perfformio – Mali Sa-jo ac Yr Wylan. Yn ystod y sesiynau gwnaeth y pedwarawd (a oedd yn cynnwys Robert Evans, Mary-Anne Roberts, Fatoumata Kouyaté, ac Ousmane Kouyaté) y canlynol:

  • Rhannu traddodiadau canu mawl – Bragod gyda chrwth a llais, y teulu Kouyaté gyda balaffon, bolon, calabash a llais.
  • Dechreuodd Fatoumata ac Ousmane gydag arddangosiad o gân werin draddodiadol boblogaidd o Orllewin Affrica o’r enw Mali Sa-jo sy’n cael ei chanu yn Mali a Gini (stori am hipopotamws sy’n syrthio mewn cariad â heliwr), ac ni chymerodd hir i Bob a Mary-Anne ymuno.
  • Arweiniodd hyn i Mary-Anne cyflwyno geiriau o Dde America (sy’n golygu ‘rydym yn erfyn i adael ysbrydion dynion hedfan’) i wneud cymysgedd perffaith, a datblygodd Ousmane hyn ymhellach trwy ychwanegu cân arall a mynd â hi at rai geiriau Saesneg hygyrch i ddathlu Affrica.
  • Ychwanegwyd at hyn yn ei fersiwn nesaf gan adio cân fawl rhagarweiniol i’r djeli .

  • Cyflwynodd Bragod eu cân farddol Yr Wylan, a ysbrydolodd Ousmane i ddechrau canu am sougay (yr haul) yn ddigymell.
  • Cymerodd Fatoumata thema’r haul, gyda geiriau am yr haul a’r sêr (yn ddiarwybod i thema’r tragwyddol – gweler isod). Esboniodd yn ddiweddarach mai menywod yw’r holl gyrff selestia – menywod sy’n codi gyntaf a’r olaf sy’n ymddeol (ac sy’n gwneud y gwaith i gyd).

  • Soniodd Mary-Anne a Robert am strwythurau neu ‘fesurau’ hynafol a ddefnyddiwyd mewn cerddoriaeth ganoloesol Gymraeg yn cynnwys system ddeuaidd o 0au ac 1au, sylwodd Bob bod chwarae Fatoumata eisoes yn dilyn y patrwm pentatonig hwn yn naturiol. Esboniodd Robert fod yr 1au yn cynrychioli popeth oedd yn dragwyddol, yn ddigyfnewid , yn oesol, ac yn etheraidd; roedd yr 0au yn cynrychioli popeth sy’n faterol, cyfnewidiol, dan ddylanwad amser, a marwol. I Fatoumata roedd y cwestiwn hwn yn cael ei ddangos yn natur naturiol yr offerynnau, a bod y llais yn adlewyrchiad o hyn – rydym ni yma am y funud.
  • Aeth Mary-Anne ymlaen i ddweud bod y mesurau barddol yn batrymau y gellir eu hadnabod yng ngherddoriaeth mawl Affricanaidd.
  • Trafododd y grŵp offerynnau traddodiadol hynafol. Esboniodd Ousmane yn Guinea bod llawer o offerynnau traddodiadol ond bod eu defnydd yn prinhau, mae llawer wedi’u haddasu a’u moderneiddio, ond nid ydych chi’n cael yr un gwir sain, a’i bod yn bwysig peidio ag anghofio i barchu’r dulliau traddodiadol.
  • Bu’r pedwar yn archwilio byrfyfyr gan gymysgu caneuon yn SuSu, Ffrangeg, Cymraeg, a Patois Trinidadaidd.
  • Nododd Bragod batrymau ‘mesur’ o fewn caneuon traddodiadol Gorllewin Affrica a chwaraewyd.

  • Trafodwyd tiwniadau traddodiadol, cadarnhaodd Ousmane fod y balaffonau gwreiddiol yn cael eu tiwnio’n wahanol iawn. Mae tiwniadau hynafiadol wedi’u haberthu i’w chwarae ag offerynnau modern Ewrop. Mae traddodiadau hynafol wedi’u colli yng Nghymru, yn yr un modd collwyd hen draddodiadau Affricanaidd i’r rhai a anfonwyd yn rymus i’r Caribî ac yna eu hail-greu a’u hail-ddychmygu, ond yn Affrica maent yn dal yn fyw ac yn hysbys.
  • Traddodiad llafar yw’r griot/djeli, gallai tad Ousmane adrodd hanes llawn Gini o’r dechrau i’r diwedd. Darnau yn unig sydd wedi eu hysgrifennu o’r traddodiad canoloesol Cymreig, mae’r mwyafrif ar goll. Mae ymchwil a dogfennaeth traddodiad Gini yn dechrau oherwydd diffyg diddordeb yn y genhedlaeth iau – nid oes unrhyw un eisiau cario balaffon o gwmpas yn awr, mae gitarau yn fwy deniadol.
  • Dywedodd Bob, o’r hyn y mae wedi’i glywed, nad yw cerddoriaeth draddodiadol Gorllewin Affrica yn seiliedig ar harmonïau tonic, dominyddol, ac is-ddominyddol ac ati – mae sylfaen gyfansoddiadol wahanol, sy’n ddiddorol ac yn newyddion da iddo yn ei waith ymchwil.
  • Rhannodd Fatoumata alaw hynafol iawn a neilltuwyd ar gyfer achlysuron arbennig iawn. Yna dangosodd Ousmane sut mae’r gân hon wedi esblygu a chwaraeodd y fersiwn fodern a glywir yn gyffredin yn Guinea heddiw.
  • Roedd y sesiynau yn llawn serendipedd a chyd-ddigwyddiadau a gododd wrth i bob un archwilio themâu newydd o ddiddordeb.

Perfformiad

Roedd rhannu’r gwaith hwn yn rhan o set Troupe Djeliguinet yng Ngharnifal Butetown ar 29 Awst 2022, lle gwahoddwyd Bragod i ymuno â nhw ar y llwyfan fel gwesteion arbennig. Roedd y ddau grŵp yn cyflwyno, yn chwarae, ac yn pwysleisio gwerth eu hofferynnau, gan ddangos parch priodol at y traddodiadau.

 

Manteision y prosiect

Ar gyfer yr artistiaid:

  • Hwyluswyd addysg ddiwylliannol a chyfnewid ar gyfer y ddau grŵp trwy broses o sgwrsio, arbrofi, a chyd-greu
  • Creu rhywbeth gwirioneddol unigryw
  • Y cyfle i ddysgu sut mae eu traddodiadau cerddorol hynafol yn cymharu, sut maen nhw’n gwahaniaethu, a sut mae’r traddodiadau hyn wedi datblygu’n ganeuon ac yn straeon cyfoes – o Affrica, i’r Caribî, ac yn awr yng Nghymru
  • Nid yw Troupe Djeliguinet wedi teithio lot yn Ewrop o’r blaen, felly dysgon nhw lawer o gael amser i gydweithio ag artistiaid Cymreig ac i ddysgu am offerynnau traddodiadol Cymru, fel y crwth
  • Mae Bragod yn awyddus i roi traddodiadau hynafol y Beirdd at ei gilydd; bu gweithio gyda chynrychiolwyr traddodiad byw o ganu mawl hynafiadol yn gymorth iddynt ddarganfod strwythurau tebyg i’w gwaith eu hunain
  • Cafodd Bragod gyfle i ddysgu oddi wrth Troupe Djeliguinet am eu hofferynnau traddodiadol fel y bolon a’r balaffon (a’u tiwnio)
  • Cafodd y cyfarfyddiadau rhwng Bragod a Troupe Djeliguinet eu dogfennu mewn ffilm ac mewn testun y gallant ei ddefnyddio i hyrwyddo’r prosiect hwn i’w dilynwyr ac i fwydo i mewn i unrhyw brosiectau yn y dyfodol
  • Bydd dysgu a chreadigrwydd y prosiect hwn yn agor cyfleoedd yn y dyfodol i’r ddau grŵp, gan roi’r ysbrydoliaeth a’r profiad iddynt ddatblygu cydweithrediadau yn y dyfodol
  • Cyfleoedd i’r ddau grŵp o artistiaid cysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chael gwrandawyr newydd


I Successors:

  • Mae’r sgyrsiau a gychwynnwyd gennym fel rhan o’r prosiect cerddorol hwn wedi darparu tystiolaeth o’r tebygrwydd rhwng y djeli a’r traddodiadau barddol a phwysigrwydd eu cadw’n fyw yn y byd cyfoes. Bydd y gwaith hwn yn darparu tystiolaeth ar gyfer cynllunio cydweithrediadau traws-diwylliannol tebyg yn y dyfodol, gan agor cyfleoedd prosiect yn y dyfodol i’n sefydliad, a chyfleoedd i fwy o artistiaid gymryd rhan.
  • Bydd y prosiect arloesol hwn yn rhoi mwy o amlygiad i TSOTM i wahanol gynulleidfaoedd ac mae ganddo’r potensial trwy berfformiad byw a rhannu’r fideo i gynyddu ein cynulleidfa – yn enwedig i’r rhai sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a hanes traddodiadol.

Cynulleidfaoedd:

  • TDarparodd y prosiect hwn brofiad cerddorol a diwylliannol unigryw i’r gynulleidfa yng Ngharnifal Butetown (tua 1500 o bobl)
  • Bydd y fideo byw o’r perfformiad yn Butetown yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach yng Nghymru, Gorllewin Affrica, a thu hwnt.
  • Amlygiad i gerddoriaeth o wahanol ddiwylliannau i gynulleidfaoedd yng Nghymru a Gorllewin Affrica, gan hyrwyddo amrywiaeth a thebygrwydd, a dathlu traddodiadau cyfoethog yng Nghymru a thu hwnt.

 

Nodiadau ar ein hartistiaid

Troupe Djeliguinet

Fatoumata Kouyaté (sy’n cael ei adnabod yn rhyngwladol fel yr artist Djeliguinet) sy’n arwain y grŵp Troupe Djeliguinet. Mae Djeliguinet yn gantores-gyfansoddwr enwog o Gini, ac mae wedi syfrdanu gwyliau ledled Affrica a ledled y byd. Mae ‘Djeliguinet’ yn golygu griot-wraig yn ieithoedd Susu a Malinké yng Ngorllewin Affrica. Mae Fatoumata Djeliguinet yn fenyw sy’n gorlifo ag egni a sgil mewn offerynnau traddodiadol fel y balaffon, djembe, kora, krin, a bolon. Yn ifanc iawn dysgodd ei chrefft ar ochr ei thad (Ousmane Kouyaté, meistr balaffon), a thyfodd i fyny wedi ymgolli mewn traddodiad cerddorol hynafol gan ffurfio ei hamlochredd cerddorol heb ei ail a’i dyfeisgarwch artistig ei hun. Yn ei thro, mae hi wedi trosglwyddo’r etifeddiaeth werthfawr hon i’w wyth plentyn (pum merch a thri mab), y mae’n rhannu’r llwyfan â nhw a’i hangerdd am offerynnau traddodiadol. Mae penderfyniad a thalent Djeliguinet wedi ei gweld hi’n esgyn i fod yn artist uchel ei pharch yn y sîn gerddoriaeth yng Ngorllewin Affrica sy’n cael ei dominyddu gan ddynion, gan dorri rhwystrau a chwalu ystrydebau, gan baratoi’r ffordd ar gyfer ei grŵp anhygoel deuluol Djeliguinet et ses Enfants (Djeliguinet a’i phlant) sy’n cynnwys ei chwaer a phedair o’i merched.

Tudalen Facebook: https://www.facebook.com/TDGuinee.  

Linciau fideo:

 

Bragod

Cydweithrediad cerddorol rhwng Mary-Anne Roberts, cantores o Drinidad sy’n byw yng Nghaerdydd a’r offerynnwr Cymreig Robert Evans . Maent yn perfformio ac yn dehongli cerddoriaeth a barddoniaeth Gymreig hynafol a chyfoes, yn cynnwys y cerddi Cymraeg cynharaf o’r 6ed ganrif, i foliant barddol canoloesol, i ganeuon defodol a phoblogaidd Cymraeg y 18fed a’r 19eg ganrif. Defnyddiant offerynnau traddodiadol Cymreig fel y crwth, telyn bwa chwe-thant, a ddefnyddiwyd yng Nghymru am dros 800 mlynedd hyd at y 18fed ganrif lle daeth yn llawer llai poblogaidd.

Mae Robert yn ymchwilio ac yn arbrofi mewn cerddoriaeth a barddoniaeth ganoloesol a barddol, gan ei wneud yn awdurdod byd-eang ar gerddoriaeth y crwth. Ef sy’n gyfrifol am adfywiad y delyn bwa hon fel offeryn hanesyddol hyfyw, y mae’n ei chwarae mewn tiwnio Pythagorean. Yn ffidlwr o fri, yn wneuthurwr offerynnau, yn arbenigwr ar gerddoriaeth linynnol Gymraeg yr Oesoedd Canol, mae ei ddehongliadau a’i gyfansoddiadau, yn seiliedig ar ffynonellau Cymreig canoloesol, wedi’u perfformio ar draws Ewrop ac America. Mae Robert wedi mentora llawer o’r genhedlaeth heddiw o gerddorion traddodiadol a chwaraewyr crwth. Mae’n cael ei ystyried yn un o’n meddylwyr beirniadol gorau ar rôl traddodiad mewn diwylliant cyfoes.

Mae Mary-Anne, sy’n wreiddiol o Drinidad, yn gantores a pherfformiwr theatr ac mae ganddi ddiddordeb penodol yn y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth farddol Gymraeg yr Oesoedd Canol a cherddoriaeth draddodiadol griots/djeli Gorllewin Affrica. Mae hi wedi datblygu ymarfer perfformio swynol, craff a chorfforol lle mae barddoniaeth ganoloesol, yn cysylltu cynulleidfaoedd â phobl a phrofiadau coll yn ein hanes a’n treftadaeth. Mae hi’r un mor gartrefol yn perfformio yn y neuadd adrodd, neu’n gweithio fel artist cyfoes mewn clybiau nos mawr yn Ewrop, ac mewn gwyliau cerddoriaeth y byd.

Wefan: https://bragod.com

 Linciau fideo:

 

Ty Cerdd funding strip logos