Roedd hwn yn gydweithrediad dan-glo a arweinodd Dominika Rau mewn partneriaeth â Chanolfan y Mileniwm Cymru.
Prosiect cymunedol i ddathlu amrywiaeth mewn adfyd.
Comisiynwyd N’famady Kouyaté i gyfansoddi darn byr a fyddai’n ffurfio’r trac sain i gymysgedd o recordiadau dawns o arddulliau dawns o bob cwr o’r byd yn cael eu dawnsio gan drigolion Caerdydd.
I ddechrau gofynnwyd i N’famady greu gwerth munud a hanner o gerddoriaeth, ond wrth i’r fideos ddechrau tywallt i Dominika, roedd yn rhaid ymestyn y darn i gynnwys pawb!
Gweler y canlyniad gorffenedig yma: