Sgowtio Talent Affro-Gymreig Ffres

CYMRYD DROSODD Y LLWYFAN FFRES!

Cyflwyniad

Yn yr haf 2022 fe wnaethom gychwyn ar arbrawf a gefnogwyd gan gynllun grantiau Loteri Ysbrydoli Tŷ Cerdd. Ar ôl ymgyrch recriwtio lwyddiannus ar gyfer rheolwr prosiect ar gyfer ein prosiect Dathliad Cymru-Affrica fe wnaethom adnabod yr angen am gyfleoedd datblygu ar gyfer gweithwyr proffesiynol ifanc sy’n dechrau gyrfaoedd mewn sefydliadau celfyddydol. Felly ganwyd y syniad ar gyfer cyd-greu prosiect sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc dan arweiniad pobl ifanc. Buom yn gweithio gyda’r cynhyrchydd newydd ifanc o Nigeria, sy’n byw yng Nghymru, Joshua Whyte (yr artist Blank Face) a Keith Murrell o Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown (BACA) i ddatblygu’r prosiect hwn, gan weithio’n agos gyda Josh ar bob cam gan gynnwys ysgrifennu’r cais am gyllid fel y gallai fod yn gyfle datblygu gwirioneddol ystyrlon.

Dyma oedd dechrau’r prosiect ‘Sgowtio Talent Affro-Gymreig Ffres’ ac roedd yn cynnwys curadu a rheoli slot llwyfan yng Ngharnifal Butetown 2022 i arddangos artistiaid ar ddechrau eu gyrfa. Roedd y prosiect yn gyflym, yn gyfyngedig o ran amser, gyda chyfleoedd lluosog ar gyfer dysgu a datblygu gyda chefnogaeth tîm profiadol.

Y gweithgareddau allweddol oedd:

  • Ymchwil (ar-lein a chysylltu â grwpiau cymunedol)
  • Creu a lledaenu galwad am artistiaid
  • Dewis artistiaid
  • Rheoli’r digwyddiad heb helynt
  • Gwerthuso a dysgu

Joshua Whyte call-out poster for artists

MANTEISION Y PROSIECT

Ar gyfer unigolion

  • Datblygiad proffesiynol unigol i Joshua Whyte fel gweithiwr cerdd proffesiynol (ac i The Successors of the Mandingue (TSOTM) a BACA fel mentoriaid sy’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o reolwyr prosiect)
  • Profiad ymarferol diriaethol a sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu dangos mewn ceisiadau cyflogaeth yn y dyfodol
  • Hyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr proffesiynol ifanc mewn gwahanol agweddau yn y diwydiant cerddoriaeth
  • Darparu llwyfan a chyfle i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa arddangos eu talent (gyda’r manteision ychwanegol o allu recordio hyn ar gyfer eu hyrwyddiad eu hunain yn y dyfodol)
  • Hwyluso profiad perfformio byw gyda chyflog i bedwar artist ar ddechrau eu gyrfa

Ar gyfer sefydliadau

  • I  TSOTM mae hwn yn gyfle gwerthfawr i brofi syniadau o ran ymgysylltu â phobl ifanc ac artistiaid newydd cyn ein gŵyl Cymru-Affrica lawn flwyddyn nesaf.
  • Drwy rymuso person ifanc i ymgymryd â’r prosiect hwn mae TSOTM yn fwy tebygol o gyrraedd talent ifanc a fydd yn newydd i’r sefydliad
  • Ar gyfer BACA a Charnifal Butetown mae’r prosiect hwn yn meithrin ac yn uwchsgilio talent, gan gynyddu’r gronfa o artistiaid a gweithwyr proffesiynol y gallant ddefnyddio yn y dyfodol.
  • Ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru (WMC) mae’r prosiect yn ehangu eu hymgysylltiad cymunedol

Ar gyfer cynulleidfaoedd

  • Darganfod talent newydd ffres
  • Cynrychiolaeth ehangach ac o amrywiaeth ar lwyfan cyhoeddus
  • Ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc trwy lwyfannu artistiaid ifanc y gallant uniaethu â nhw
  • Digwyddiad mynediad agored
  • Prosiect a arweinir gan berson ifanc, yn cyflwyno perfformiadau bobl ifanc, sy’n ddeniadol i gynulleidfaoedd o bobl ifanc
  • Cyflwyno celfyddydau traddodiadol dilys i gynulleidfaoedd ifanc fel rhan o’r digwyddiad ehangach

Y Digwyddiad

Yr artistiaid dethol oedd Adjua, Suleiman Atta, a Mirari More. Cafodd pob un ei hysbysu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol fel artistiaid unigol yn y cyfnod cyn y digwyddiad. Roedd y perfformiadau yn anhygoel ac roedd naws wych ar y llwyfan drwy’r prynhawn. Cafodd Joshua hefyd brofiad o chwarae set Blank Face ar y dydd Sul fel rhan o’i gyflwyniad i’r llwyfan.

BLANK FACE

Blank Face photo

Joshua Whyte (Blank Face @manlikeblankface) ein Swyddog Prosiect ‘Sgowtio Talent Affro-Gymreig Newydd Sbon’ oedd y berfformiwr cyntaf y prosiect yng Ngharnifal Trebiwt eleni – yn dysgu yn y swydd ar y Llwyfan Ffres, Bae Caerdydd, ar ddydd Sul Awst 28ain 2022.  Artist recordio yw Blank Face sydd wedi’i leoli yng Nghymru gyda phrofiad cynhyrchu creadigol a chyfarwyddo cerddoriaeth ar draws prosiectau amrywiol. Mae Blank Face (hefyd yn defnyddio’r enw ‘Blanko’) yn creu cynfas cerddorol gan ddefnyddio gwahanol synau fel ei baent a’i frwsh i greu llun. Mae ganddo ychydig dros 300,000 o ffrydiau cerddoriaeth ledled y byd.

ADJUA

Adjua headshot

Cyntaf ar ddydd Llun 29ain Awst 2022 oedd @adjuasings_ ar y Llwyfan Ffres 4.40yp. Wedi’i eni yn Sblot i rieni o Ghana a Chymru, mae Adjua wedi bod yn creu cerddoriaeth ers 5 mlynedd ac mae ganddi angerdd mawr dros ddefnyddio cerddoriaeth i atseinio ag eraill. Cerddoriaeth Alt-rnb gyda blas acwstig!

SULEIMAN ATTA 

Suleiman Atta headshot

Nesaf oedd ein Suleiman I. Atta, 6yn ar y Llwyfan Ffres. Cantor/cyfansoddwr sy’n byw yng Nghymru yw Suleiman. Mae Suleiman yn gwneud caneuon R&B, soul a bît-affro. Mae hefyd yn gynhyrchydd cerddoriaeth ac yn berfformiwr gweithgar.

MIRARI MORE 

Mirari More portrait photo

Yn olaf Mirari More, 6.20yn, ar y Llwyfan Ffres. Mae Mirari yn asio rap a lleisiau R&B llawn enaid gyda chynhyrchiad hiphop/jazz/afropop. Mae’r cantor/cyfansoddwr sy’n byw yng Nghaerdydd wedi perfformio yn FOCUS Wales ac wedi bod yn brif berfformiwr ar lawer o leoliadau eraill ar draws y ddinas, gan gynnwys samplu ‘Nights over Egypt’ gan y Jones Girls a’i droi’n record rap o’r enw ‘Chandel Bleu’. Ar y diwrnod ymunodd Andrew Ogun a Mirari ar gyfer dau drac.

Adborth Josua

Trefnais “Blank Face Presents” rhan o ddigwyddiad a arddangoswyd yng Ngharnifal Butetown. Roedd yn ddigwyddiad anhygoel ac yn cyffroi’r dorf. Gwnaeth yr actau a berfformiwyd yn rhyfeddol o dda ac roedd y tîm technegol a fu’n ymwneud â’r prosiect yn eithriadol. Cefais lawer o hwyl yn bersonol hefyd. Yr unig feirniadaeth yw bod rhai perfformiadau yn gwrthdaro â’r prif lwyfan ond ar wahân i hynny aeth popeth yn dda a bu llawer o gydweithio rhwng tîm staff Canolfan y Mileniwm a chefnogaeth gan Keith a Cathryn (swyddogion prosiect eraill TSOTM).

Roedd effaith y prosiect yn sylweddol. Rwy’n credu:-

  • Daeth y prosiect â phobl ynghyd drwy amrywiaeth
  • Chwaraeodd y prosiect rôl arwyddocaol wrth ddod â phobl yn y gymuned at ei gilydd. Wnaeth llawer o bobl cyfarfod ag wynebau cyfarwydd nad oeddent wedi’u gweld ers blynyddoedd oherwydd y pandemig.
  • Rhoddodd y prosiect syniad realistig i’r gynulleidfa o gerddoriaeth Affricanaidd gyfoes.
  • Rhoddodd y prosiect gyfle i artistiaid perfformio ac arddangos eu gwaith.
  • Rhoddodd y prosiect lwybr incwm i artistiaid perfformio. Mae hyn yn dangos gwerthfawrogiad o’u hamser a’u dawn.
  • Cododd y prosiect ymwybyddiaeth o artistiaid dawnus o gefndiroedd Affricanaidd.
  • Gosododd y prosiect sylfaen ar gyfer sut fydd Carnifal Butetown yn datblygu bob blwyddyn gan mai dyma’r tro cyntaf i’r llwyfannau gael eu sefydlu yn y ffordd honno. Roedd yn drefniant gwych a helpodd benderfynu sut gall y carnifal gweithio pan gafodd ei sefydlu o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru.
  • Creodd y prosiect awyrgylch gwych i’r gynulleidfa a’r staff/gweithwyr stondin a oedd yn bresennol ar gyfer y digwyddiad.

Daeth yr heriau a wynebwyd cyn y digwyddiad. Roeddwn i wedi estyn allan at dipyn o artistiaid o gwmpas Cymru o darddiad Affricanaidd a dim ond ychydig oedd yn ymddiddori. Roedd gen i broblemau gyda hysbysebion Facebook, fe wnaethon nhw wrthod ein hysbysebion heb unrhyw reswm pendant, felly fe laddodd ein cyrhaeddiad. I ddatrys y broblem, fe wnaethon ni anfon yr alwad allan â llaw i estyn allan at artistiaid. Cawsom ychydig o bobl i’w ailbostio ar Twitter, Facebook ac Instagram. Fe wnaethom ddefnyddio ein holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth hefyd.

Un rhwystr arall oedd cadw sylw’r dorf. Diolch i fy hyfforddiant cerddoriaeth, agorais y llwyfan gyda fy set fy hun ac roeddwn yn gallu gosod y naws i gadw pobl i ymgysylltu. Canlyniad hyn oedd wnaeth fy llwyfan wedi cael sylw pobl am bron ddwy awr wrth iddynt gael eu bwyd a’u diod.

Dysgais lawer iawn o’r digwyddiad. Dysgais am reoli llwyfan yn ogystal â sut i gydweithio â gwesteiwyr digwyddiadau, a gyda thîm technegol. Roeddwn hefyd yn hoffi’r ffaith fy mod yn cael rheoli un o’r llwyfannau ar fy mhen fy hun. Rwy’n credu mai dyna oedd y pwynt dysgu mwyaf i mi gan fy mod wedi gallu dysgu yn y fan a’r lle a bod â lefel benodol o ymreolaeth sy’n fy ngalluogi i allu gwneud fy mhenderfyniadau fy hun. Roeddwn hefyd yn gallu ymarfer ffrwyth fy hyfforddiant cynhyrchwyr a gynhaliwyd gan ‘Arise Wales’. Roeddwn i’n gallu cymhwyso fy hyfforddiant sy’n brofiad dysgu amhrisiadwy, gan weld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Nid yn unig roeddwn i’n gallu cymhwyso fy hyfforddiant cynhyrchydd, roeddwn i’n gallu cymhwyso fy mherfformiad cerddoriaeth byw fel i mi gael fy hyfforddi gan ‘Live Music Now’ ar sut i gael y dorf i fod yn fwy deniadol. Yn y diwedd fe wnaethon nhw ddawnsio llawer ac roeddwn i wrth fy modd, roedd y canlyniad yn fwriadol i ddweud y lleiaf. Yn olaf, mae gen i ddealltwriaeth well o’r rolau sydd eu hangen i sefydlu sioe lwyfan a chyngerdd wych. Gweithio ar brosiect fel hwn gan ddechrau o rôl cynhyrchydd yn gwneud cais am arian, i redeg y llwyfan a hefyd perfformio ar y llwyfan. Teimlais fy mod wedi cael y profiad dysgu mwyaf posibl yn gallu gweithio ar draws cymaint o wahanol rolau yr wyf yn gymwys i’w gwneud ac roeddwn yn gallu deall pa rolau rwy’n eu hoffi a hefyd pa bersonél sydd eu hangen arnaf i gynnal sioe wych.

Adborth yr Artistiaid

Suleiman Atta

Roedd yn wych bro. Yr unig beth yw pe bawn wedi paratoi traciau cefndir yn lle gitâr, nid chwarae’n fyw oedd y gorau ar gyfer y llwyfan hwnnw dwi’n meddwl.

Adjua

Ar y cyfan, roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy hwyluso o ran cael gwiriad sain a’r peirianwyr yn gwneud yn siŵr fy mod i yn gyfforddus gyda’r sain. Roedd ganddyn nhw eu ceblau a’u pethau eu hunain a oedd yn ddefnyddiol, finnau hefyd meddwl bod y sain yn gyffredinol yn eithaf gwych o ystyried ei fod y tu allan.
Roedd yr awyrgylch a’r dyrfa’n reit anhygoel, yn enwedig gan fod y tywydd yn wych. Yr un peth y byddwn i’n ei ddweud yw efallai trefnu gwiriadau sain yn well, roedd fy amser wedi newid sawl gwaith. Roedd yn llwyfan arbennig o dda i chwarae, a byddwn yn ei wneud eto.

Mirarimore

Roedd gweithio gyda Josh yn hynod o bleserus. Roedd yn glir iawn yn ei gyfathrebiad ynghylch y digwyddiad, yr hyn a ddisgwylid gennyf a’r hyn y dylwn ei ddisgwyl. Roeddwn yn ei chael yn hawdd ei gyrraedd pryd bynnag roedd gen i ymholiadau, ac ar ddiwrnod y digwyddiad roedd yn barod iawn i helpu. Yn dangos i mi ble i fynd a hefyd darparu dŵr ac ati felly roeddwn i gyd yn dda i berfformio. Byddwn yn bendant yn hapus i weithio gyda Josh yn y dyfodol.

Adborth Rheolwr Rhaglen

Joshua – roeddech chi’n seren, yn syth yn y pen dwfn ac yn gleidio fel alarch! Methu aros i weld eich gwerthusiad! Roedd gan y llwyfan naws braf iawn amdano. Un o fy hoff agweddau o ddoe oedd y ffaith bod lot o’r bois ifanc ddaeth i’ch llwyfan chi wedi aros ymlaen ac yn ddwli ar y stwff traddodiadol yn hwyrach – roedd yn hyfryd gweld, achos dwi’n dyfalu bod llawer ohonyn nhw ddim yn cael mynediad i’r math yna o beth fel arfer.

Poster Carnival Trebiwt

 

Ty Cerdd funding logo strip