Ysgol Twm o’r Nant

Ysgol Twm o'r Nant project photosYm mis Mai 2021 cawsom ein gwahodd i weithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Twm O’r Nant (ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg) yn Ninbych, Gogledd Cymru. Cyflwynodd N’famady Kouyaté sawl sesiwn offerynnau taro a cherddoriaeth ar-lein trwy Zoom a Teams mewn partneriaeth ag artist lleol Tara Dean.

Cymerodd ran 35 o blant 10-11 oed yn y prosiect cyfrwng cymysg hwn, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau taro ar-lein gan ddefnyddio offerynnau ysgol, a gweithgareddau celfyddydau gweledol yn yr ystafell ddosbarth. Dangosodd N’famady offerynnau traddodiadol Gorllewin Affrica – djembe a balafon – a chafodd y plant fudd hefyd o’r cyfle i ofyn cwestiynau ac i gymryd rhan mewn rhannu diwylliannol.

Ysgol Twm o'r Nant project photosBu’r plant yn archwilio rhythm a phatrymau, gan wneud casgliad o ‘luniadau sain’ siarcol mewn ymateb i’w sesiynau taro, ac wrth wrando ar gerddoriaeth balafon wedi’i recordio gan N’famady – yn gwneud marciau a rhannu ar y cyd, gan drosglwyddo eu lluniau i’r person nesaf atynt a chymryd rhan mewn symud a dathlu cerddoriaeth a oedd yn eu cysylltu â’i gilydd.

Datblygodd hyn yn naturiol i ddechrau haenu rhythmau ac ychwanegu cân – a datblygu darn galw ac ymateb gyda’r plant – byddai N’famady yn gwneud galwad yn ei iaith gyntaf (Susu) a byddai’r disgyblion yn ymateb yn Gymraeg – a chreu cyfarfod diwylliannau ar draws y rhyngrwyd. Eglurodd N’famady ystyr y geiriau a ganodd iddynt fel y gallai’r plant ddatblygu ateb priodol i gyd-fynd â’r alaw a’r rhythm. Roedd y dechneg hon yn ategu’r haenau roedd y plant yn eu datblygu yn eu gwaith argraffu yn y dosbarth.

Twm O'r Nant children's print work
Gwaith argraffu plant Twm O’r Nant

Ar ddiwedd y prosiect wnaeth y plant Blwyddyn 6 perfformio’r drymio a ddysgon nhw i blant Blwyddyn 5 a gwnaethant luniadau sain ato – i drosglwyddo eu dysgu i’r Flwyddyn 6 nesaf!