Prosiect Ysbrydoli a ariannwyd gan Dŷ Cerdd oedd Plant Successors a gyflwynodd naw gweithdy cerddoriaeth wyneb i wyneb llwyddiannus mewn amrywiaeth o leoliadau rhwng Ebrill ac Awst 2021, gan ymgysylltu â 157 o gyfranogwyr, gan addysgu plant a phobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd 4-25 oed.
SESIYNAU A DDARPERIR
- Cynllun Chwarae Gwyliau Women Connect First – Parc y Gamlas, Butetown – 3/4/21
- Clwb Ar Ôl Ysgol Riverside – Gerddi Clare, Riverside – 19/5/21
- Meithrinfa a chlwb ar ôl ysgol Trelái – 10/6/21
- Sesiwn gyfunol ar gyfer Grŵp Gadawyr Gofal Caerdydd a Cardiff Deaf Cool Youth Club – Cae Hamdden y Rhath – 11/6/21
- Cardiff Deaf Cool Youth Club – Calon y Byddar Cymru – 18/6/21
- Clwb Gofalwyr Ifanc – Pafiliwn Butetown – 19/6/21
- Digwyddiad uned symudol Tîm Stryd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd – Gerddi Grange – 23/7/21
- Grŵp Cynhwysiant – Canolfan Addysg Gymunedol Gogledd Trelái – 11/8/21
- Clwb Haf – Rhiwbeina – 11/8/21
Cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf yn ystod y cyfnod cychwynnol iawn o leddfu cyfyngiadau cysylltiedig â COVID-19 yn ystod gwyliau’r Pasg (pellter cymdeithasol, yn yr awyr agored, gyda masgiau, ac arferion glanweithio llym). Fodd bynnag, roedd hyn yn werth yr ymdrech – gweld y llawenydd yn y wynebau’r plant ar ôl cymaint o amser o fethu dod gyda’i gilydd, cymdeithasu, na chymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu anffurfiol mewn grŵp. Roedd y bobl ifanc (a’u mamau) yn gyfranogwyr brwdfrydig. Dywedodd un fam Somalïaidd fod plant a phobl ifanc wedi colli cymaint o gyfleoedd oherwydd y pandemig, a’i bod mor brin hefyd iddynt gael cyfle i brofi cerddoriaeth Affricanaidd “‘ni fyddent yn cael profi hyn fel arfer”.
Daeth ein sesiwn djembe maes Hamdden y Rhath â dwy ddarpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid arbenigol gwahanol iawn yn y ddinas ynghyd, sef Clwb Ieuenctid Cŵl y Byddar Caerdydd a’r grŵp Gadawyr Gofal, gwnaed y sesiwn yn hygyrch gyda Dehonglydd BSL/Saesneg ac integreiddio dau grŵp defnyddwyr gwahanol iawn.
Ar y cyfan, roedd y prosiect yn targedu pobl ifanc a allai wynebu rhwystrau i gyfleoedd i ymgysylltu â hyfforddiant cerdd neu ddarpariaeth arbenigol.
Roedd y gweithdai’n cynnwys hyfforddiant sylfaenol mewn offerynnau taro, drymio djembe, canu, a balafon; gyda mwyafrif y dysgwyr yn cael profiad o gerddoriaeth Gorllewin Affrica am y tro cyntaf.
Roedd gan bob sesiwn ddau hwylusydd, a dehonglwyd dwy sesiwn (BSL/Saesneg). Ar gyfer y grŵp cynhwysiant yng Ngogledd Trelái (clwb ieuenctid arbenigol ar gyfer pobl ifanc anabl ag anghenion ychwanegol), roeddem yn gallu gwahodd prif ddrymiwr anabl o Furkina Faso (sy’n byw yn Llundain) i gyd-hwyluso’r sesiwn fel model rôl gadarnhaol.
Cafodd y sesiynau dderbyniad da, roedd nifer dda yn eu mynychu, ac roeddent yn cynnwys plant a phobl ifanc o ystod amrywiol o gefndiroedd (llawer ohonynt sy’n wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at ddarpariaeth gerddoriaeth arferol).
BUDDIANNAU PROSIECT:
- Mynediad at hyfforddiant gan gerddorion proffesiynol gwaeth beth fo’u gallu, anabledd, cefndir diwylliannol, rhyw neu amgylchiadau ariannol
- Darparu modelau rôl Du cadarnhaol sy’n angerddol am eu celf
- Arallgyfeirio gweithgareddau darpariaethau i gynnwys cerddoriaeth, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddysgwyr
- Rhannu treftadaeth gyfoethog traddodiad griot Gorllewin Affrica
- Cynrychioliadau cadarnhaol o ddiwylliant pobol Du yng Nghymru fel gwrthwenwyn i stereoteipiau negyddol
- Dysgu am draddodiadau diwylliannol Mandingue Gorllewin Affrica a chelfyddydau trwy gerddoriaeth
- Rhannu diwylliannau trwy drafodaethau grŵp
- Rhoi cynnig ar sgiliau newydd, annog hobïau newydd, neu fanteisio ar offeryn newydd
- Darparu llwybr i archwilio a meithrin hunaniaeth ddiwylliannol gadarnhaol trwy gerddoriaeth a diwylliant (yn enwedig i’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd â gwreiddiau yn yr alltud yn Affrica nad oes ganddynt lawer o wybodaeth am eu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog)
- Ymgysylltu â phobl ifanc anniddig
- Denu pobol ifanc newydd i’r clybiau
- Meithrin hyder
- Datblygu sgiliau cyfathrebu
- Hyrwyddo amrywiaeth mewn cerddoriaeth a mynegiant
- Cyflwyno cerddoriaeth Affricanaidd i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd
- Plannu’r hadau i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gerddorion, offerynwyr taro, a chantorion
- Cydweithrediad a chyfranogiad rhwng cenedlaethau (ni all rhieni a gweithwyr cymorth helpu eu hunain rhag cael eu denu i mewn i chwarae!)
- Gweithdai wedi’u teilwra a’u cyflymu i ddiwallu anghenion unigol
- Cefnogaeth 1:1 yn ôl angen
- Mynediad i weithgareddau trwy gyfrwng BSL ar gyfer grwpiau sydd wedi’u heithrio o fwyafrif o weithgareddau cerddorol arferol
- Cael hwyl a phrofi’r llawenydd o gymryd rhan!
Daeth y prosiect hwn â’r buddion uchod i grŵp eang ac amrywiol o blant a phobl ifanc sy’n aml yn wynebu rhwystrau i ddarpariaeth oherwydd problemau ariannol, rhwystrau cyfathrebu, rhwystrau iaith, cyfrifoldebau teuluol, a diffyg hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau ac anghenion dysgu.
Trwy fynd â gweithdai i grwpiau sydd eisoes wedi’u sefydlu yn y gymuned rydym yn cyrraedd mwy o bobl ifanc ac yn cael mwy o effaith na cheisio sefydlu gweithdai unigol mewn cyfnod byr o amser. Mae manteision ychwanegol hefyd i blant a phobl ifanc deimlo’n gyfforddus yn eu lle diogel, a bod eu gweithwyr cymorth rheolaidd (sy’n eu hadnabod orau) wrth law i gynghori ac i ddysgu ochr yn ochr gyda’r plant er mwyn gallu ailadrodd rhai agweddau o’r gweithgareddau i atgyfnerthu yn ddiweddarach.
Roeddem yn falch iawn i gyflwyno’r gweithgareddau hyn i grwpiau amrywiol o bobl ifanc ddifreintiedig (y byddai llawer ohonynt wedi bod dan anfantais anghyfartal dros gyfnod y pandemig), gan hwyluso mynediad at weithdai gwerth chweil a chyfoethog.
O ganlyniad y prosiect hwn, gofynnwyd i ni gyflwyno dwy sesiwn arall yng Nghanolfan y Byddar Caerdydd, a rhaglen o sesiynau ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd yn ystod Gwanwyn 2022.